Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
ganiatáu pob plentyn 16-19 oed mewn addysg llawn amser i
gael y £30 llawn o’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yr
wythnos, beth bynnag yw incwm eu rhieni.
Gwybodaeth ychwanegol: Dylai pob plentyn 16-19 oed gael y £30
llawn o’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yr wythnos, beth bynnag
yw incwm eu rhieni. Nid yw pob rhiant sy’n ennill cyflog
digonol yn helpu eu plant yn ariannol i fynd i’r coleg, ac
mae’n anodd dod o hyd i waith oherwydd bod y rhan fwyaf o
weithleoedd yn gofyn am brofiad yn eu meysydd. Dylai pob plentyn
gael y lwfans wythnosol, ar yr amod eu bod yn mynd i’r ysgol
neu’r coleg.
.
Prif ddeisebydd: Jack Gillum
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 4 Mehefin 2013
Nifer y llofnodion : 10